Contact Details
- 01792 232754
- bishopstonprimaryschool@bishopston-pri.swansea.sch.uk
Bishopston Road, Bishopston, Swansea, SA3 3EN
Bishopston
Primary School
Ysgol Gynradd
Llandeilo Ferwallt
To read this in Welsh, please scroll down.
Dear Stakeholder,
As you may be aware there have been numerous changes within education recently which have challenged school communities to think more creatively to ensure that we are best placed to maintain the best possible educational experience for all our children.
Bishopston and Knelston Primary schools have been successfully working together closely within the same cluster for some time and the success of this collaboration has been monitored by the governing bodies of both schools for some time. We would now like to propose to make this collaborative relationship a permanent one by moving into a formal federation.
A federation is a family of schools, with each school retaining its unique character, its own budget and having a separate Estyn inspection. The current admissions processes will remain the same. The key difference is that both schools would share a Head Teacher and there would be one governing body made up from representatives from both school communities.
We are proposing to build on the solid foundations established by our collaboration and ensure continuing strong leadership and high standards in teaching and learning whilst maintaining each school’s individual ethos and values. We aspire to keep each school’s unique values the same. For reassurance there will be no change to the name, uniform or the branding of both schools. We will however develop a Federation identity for use when required.
The Governors of both schools involved have established a joint Working Group to undertake a consultation process to seek the views of parents, staff, the community, the local authority, and other key partners. Full details are available in the consultation pack attached to this email.
We look forward to hearing from you and will keep you updated regarding our final decision.
Yours sincerely,
Ben Greenaway Kathryn David
Chair of Governors Chair of Governors
Bishopston Primary School Knelston Primary School
Annwyl randdeiliad,
Efallai y byddwch yn ymwybodol bod newidiadau niferus wedi digwydd ym maes addysg yn ddiweddar, sydd wedi herio cymunedau ysgolion i feddwl yn fwy creadigol er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i gynnal y profiad addysgol gorau posibl ar gyfer pob un o’n plant.
Mae Ysgolion Cynradd Llandeilo Ferwallt a Llan-y-tair-mair wedi bod yn cydweithio’n agos â’i gilydd yn llwyddiannus yn yr un clwstwr ers tipyn o amser, ac mae Cyrff Llywodraethu’r ddwy ysgol wedi bod yn monitro llwyddiant y cydweithio hwnnw ers tipyn o amser hefyd. Yn awr, hoffem gynnig bod y berthynas gydweithredol hon yn dod yn un barhaol, drwy ei throi’n ffederasiwn ffurfiol.
Teulu o ysgolion yw ffederasiwn, lle mae pob ysgol yn cadw ei chymeriad unigryw ei hun a’i chyllideb ei hun a lle mae’n cael ei harolwg Estyn ei hun. Bydd y prosesau presennol ar gyfer derbyn disgyblion yn aros yr un fath. Y prif wahaniaeth yw y byddai’r ddwy ysgol yn rhannu Pennaeth ac y byddai yna un corff llywodraethu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau’r ddwy ysgol.
Rydym yn cynnig adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd wrth i ni gydweithio, a sicrhau bod arweinyddiaeth gadarn a safonau uchel o ran addysgu a dysgu’n parhau, gan sicrhau ar yr un pryd bod ethos a gwerthoedd unigol pob ysgol yn cael eu cynnal. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gwerthoedd unigryw pob ysgol yn aros yr un fath. Hoffem eich sicrhau na fydd unrhyw newid i enwau’r ddwy ysgol, eu gwisg na’u brand. Fodd bynnag, byddwn yn datblygu hunaniaeth ar gyfer y Ffederasiwn, i’w defnyddio pan fo angen.
Mae Llywodraethwyr y ddwy ysgol wedi sefydlu Gweithgor ar y cyd er mwyn ymgymryd â phroses ymgynghori i ofyn am farn y rhieni, y staff, y gymuned, yr awdurdod lleol a phartneriaid allweddol eraill. Mae’r manylion llawn i’w gweld yn y pecyn ymgynghori sydd ynghlwm wrth y neges ebost hon.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych, a byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw ein penderfyniad terfynol.
Yr eiddoch yn gywir,
Ben Greenaway Kathryn David
Cadeirydd y Llywodraethwyr Cadeirydd y Llywodraethwyr
Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt Ysgol Gynradd Llan-y-tair-mair
Bishopston Road, Bishopston, Swansea, SA3 3EN